UWB Crest

Bar Uno at Bangor

Mannau Arlwyo ar y Safle

Os ydych chi eisiau rhywle i biciad iddo am goffi neu damaid sydyn, neu lond bol o ginio, mae gennym nifer o fannau arlwyo ar y safle sydd ar agor i staff, myfyrwyr, ymwelwyr a gynadleddwyr.

Cliciwch yma i lwytho map o'r holl fannau arlwyo i lawr.


Oriau agored y Pasg

Cliciwch yma i weld oriau agored llefydd bwytau y Brifysgol yn ystod gwyliau y Pasg

Y TERAS

     


Rydym yn eich gwahodd i ddod draw i fwynhau’r cyfuniad unigryw o’r clasurol a’r cyfoes, o ran cynllun y lle ei hun a’r bwyd a fydd ar gael yno.
 
Tan 11 y bore gellwch fwynhau brecwast syml o gacennau neu 'baguettes' brecwast poeth. Mwynhewch ein cinio ysgafn o topin tost i fwydlen cinio a phryd gyda’r nos mwy ffurfiol yn cynnwys y cynhwysion ffres gorau.  Mae’r Teras hefyd yn darparu te prynhawn godidog gyda dewis helaeth o ddiodydd ar gael, neu pam na wnewch chi fynd draw yno i fwynhau un o bwdinau enwog y Prif Gogydd, Bruno Bessonie.
 
Mae rhywbeth i bawb  yn y fwydlen sy’n rhesymol ei phris ac yn gyforiog o greadigrwydd.   
 
Mae'r Teras yn agored o 8am - 6pm o ddydd Llun i ddydd Mercher a than 10pm ar ddydd Iau a dydd Gwener (archebion olaf 8pm).
 
Mae’n hanfodol archebu prydau gyda’r nos ac rydym yn croesawu archebion amser cinio hefyd – ffoniwch 01248 388686

DEWCH I WLEDDA EFO FI - 24 Ebrill, 2012

Cliciwch ar ein bwydlen isod i weld ein TOPIN TOAST A TABLE D'HOTE NEWYDD (ffeil wedi'i ddiweddaru 26.03.12)


Gellir gweld y fwydlen lawn yma....

Bwydlen Teras   (i'w brintio)

Peidiwch ag anghofio fod Y TERAS yn cynnig pryd y dydd yn dyddiol.... dewch i'w trio..!!

Cerdyn Ffyddlondeb Masnach Deg

Cynhalwyd hyrwyddiad cerdyn Ffyddlondeb Masnach Deg rhwng 27 o Chwefror a 11 o Fawrth i gefnogi Masnach Deg. Roedd rhaid i bobl brynu 10 cynnyrch Masnach Deg o unrhyw un o'n llefydd bwyta i gael cyfle i ennill 'ipod touch'!

Yr enillwr oedd Victoria Whiteley. Llongyfarchaidau i Victoria...!

Siop y Ffriddoedd

Ein siop newydd ar safle’r Ffriddoedd (Adeilad Braint) yw’r lle delfrydol i brynu nifer fach o eitemau neu lond basged o fwyd.

Mae amrywiaeth o gynnyrch ar gael gan gynnwys anrhegion a dillad brand y Brifysgol, bwyd bob dydd fel melysion, cynnyrch llaeth, bwyd wedi’i oeri neu wedi’i rewi a byrbrydau.

Bydd dewis eang o gylchgronau, papurau newydd a gwinoedd, gwirodydd a chwrw ar gael cyn bo hir.  

Bar Uno

Agor 7 diwrnod yr wythnos 11am - 11pm (hanner nos ar y penwythnos)

Bwydlen Bar Uno

Efallai eich bod yn byw ar Safle Ffriddoedd, yn aelod o staff y Brifysgol neu’n ymwelydd, ond byddwch i gyd wrth eich boddau gyda’n bar caffi, sy’n gyfandirol ei naws.  Mae digonedd o ddewis i bawb ar y bwydlenni brecwast, cinio a swper, yn brydau sylweddol neu iach. I gyd am bris rhesymol iawn!

Mae Bar Uno gyferbyn â Neuaddau Idwal a Gwynant ar Safle Ffriddoedd

Cafe Teras

Gwasanaeth Cownter - 8.30am - 5.00pm

Mae Cafe Teras wedi’i leoli gyferbyn â’r Teras ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer egwyl goffi rhwng darlithoedd, cinio poeth o’n hamrywiaeth o brydau dyddiol iach a ffres neu’n lle cyfleus i ddod am damaid sydyn. Felly pryd bynnag yr ydych yn teimlo’n llwglyd, dewch draw a gadewch i’n staff cyfeillgar eich helpu, am bris y gellwch chi  ei fforddio.

Caban Coffi y Teras

Wedi ei leoli yng nghyntedd Adeilad y prif Gelfyddydau.  Yn gwerthu te, coffi, brechdanau cartref a byrbrydau iach.

BistroY Bistro

Llun - Gwener 8.30am tan 6.00pm

Os ydych chi’n breswylydd ar Safle’r Normal neu ddim ond yn ymweld, mae Y Bistro yn lle perffaith i fwyta i mewn neu oddi yno drwy gydol y dydd. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fwydydd ysgafn a phrydau poeth iach, yn ogystal â dewis o ddiodydd oer, coffi a phethau melys o safon, i gyd am brisiau y gellwch chi eu fforddio. 

Siop yn Y Bistro

Mae’r Bistro’n cynnwys siop. Mae’r siop yn rhoi’r cyfle i chi brynu pethau y gwnaethoch eu hanghofio wrth wneud eich neges wythnosol neu gallwch brynu llond basged o fwyd. Bydd llysiau ffres ar gael yno cyn bo hir, yn ogystal ag amrywiaeth dda o gynhyrchion llaeth.

Caffi Glas @ Canolfan yr Amgylchedd Cymru

Caffi GlasLlun - Gwener 8.45 a.m. tan 4.00 p.m.

Mae Caffi Glas yn Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, yr adeilad gyda phensaernïaeth drawiadol sydd ar Ffordd Deiniol, gyferbyn â'r llyfrgell, yn lle delfrydol i ddod am seibiant coffi rhwng darlithoedd, am fyrbryd poeth o'n dewis o gawl dyddiol maethlon a ffres, neu'n lle cyfleus am damaid sydyn.

Caban Coffi Wheldon

Wedi ei leoli yn Adeilad Wheldon.  Yn gwerthu te, coffi, brechdanau cartref a byrbrydau iach.

Bwyd@Bangor

Gwasanaethau arlwyo i’r drws gan Brifysgol Bangor...  yn Arlwyo i chi

Ffon: 01248 382 558
Ebost: reservations@bangor.ac.uk
Cliciwch yma am ein Bwyd@Bangor image   (i'w brintio)

 

Polisi Bwyd Cynaliadwy